Anafiadau, Llwyth Hyfforddi a Monitro, Adsefydlu

Amdanom ni


Wedi’u hategu gan brofiad yn y diwydiant ac wedi’u hysgogi gan yr awydd i ddatblygu perfformiad athletaidd a gwybodaeth atal anafiadau, mae ein tîm o wyddonwyr cymhwysol a hyfforddwyr achrededig yn weithgar mewn ymchwil amlddisgyblaethol ym maes chwaraeon elitaidd.
Yn rhychwantu paratoi athletwyr corfforol, technegol a thactegol, ac mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant ledled y byd, mae ein cyrhaeddiad a’n heffaith sylweddol wedi’i ddangos yn glir. Er enghraifft, mae cyfeiriadau at ein hymchwil sy'n arwain y byd i arwain atal anafiadau a pharatoi athletwyr yn gorfforol ar gyfer perfformiad yn tyfu'n gyflym. Yn benodol, mae argymhellion o ganlyniad i’n canfyddiadau wedi’u mabwysiadu gan athletwyr elitaidd, timau, cyrff llywodraethu cenedlaethol, sefydliadau chwaraeon, a grwpiau gweithrediadau a thactegau arbennig.
 
Yn bwysicaf oll, ers ein cyhoeddiadau cynnar yn ôl yn 2013, mae tystiolaeth i gadarnhau gwaith ein tîm i leihau amser i ffwrdd o chwaraeon oherwydd anafiadau bellach yn dod i’r amlwg.
Ar hyn o bryd mae ein hymchwil amlddisgyblaethol yn cynnwys y disgyblaethau Gwyddor Chwaraeon canlynol:
 
           

  • Therapi Chwaraeon ac Adsefydlu
  • Cadw Gwyliadwriaeth ar Anafiadau Chwaraeon ac Epidemioleg
  • Cryfder a Chyflyru
  • Dadansoddi Perfformiad
  • Hyfforddiant Chwaraeon
  • Seicoleg Chwaraeon

Prosiectau ymchwil

Mae’r thema ymchwil hon ar hyn o bryd yn cynnal nifer o brosiectau ymchwil sydd wedi’u cynllunio i ddefnyddio a chipio llu o fesurau corfforol a seicolegol er mwyn deall eu cysylltiad â risg anafiadau, a asesir yn rhagolygol.

Ymhellach, mae'r ymchwil hwn yn cael ei wneud ar draws ystod o chwaraeon gyda'r bwriad o ddeall rhai o'r gofynion cyd-destunol a roddir ar athletwyr sydd â'r potensial i gynyddu'r risg o anafiadau.

Gan ddefnyddio ystod o fesurau dadansoddol, rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil sydd wedi'i chynllunio i wneud synnwyr o'r tueddiadau tactegol sy'n gysylltiedig â Phêl-droed Rhyngwladol.

Yn benodol, mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y mae cyfleoedd sgorio gôl yn cael eu creu a sut y caiff goliau eu sgorio, gan ddarparu archwiliad manwl o'r gweithgaredd cyn y chwarae sy’n arwain at y canlyniadau hyn. Y nod yw darparu tystiolaeth sy'n cefnogi rhaglenni addysg hyfforddwyr parhaus.

Mae ein ffocws ymchwil cymhwysol mewn Cryfder a Chyflyru yn cael ei ddylunio a'i gymhwyso mewn amrywiaeth o leoliadau chwaraeon a pherfformiad. Mae gennym ddiddordeb nid yn unig ym mecaneg hyfforddiant cryfder a chyflyru ond hefyd mewn cymhwyso gwybodaeth hyfforddi yn effeithiol o fewn y ddisgyblaeth hon.


Yn benodol, rydym yn cynnal ymchwil sy'n ceisio ychwanegu cangen ymarfer proffesiynol at y corff o wybodaeth a ddelir ar hyn o bryd o fewn Cryfder a Chyflyru i gefnogi integreiddio'r ddisgyblaeth i ymarfer chwaraeon elitaidd.


Aelodau