Mae Canolfan Ymchwil Pêl-droed Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) yn gysylltiedig â Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS) ac mae'n bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol De Cymru (Grŵp Ymchwil ac Arloesedd Chwaraeon ac Ymarfer) a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Cenhadaeth y Ganolfan yw ymgymryd ag ymchwil ac arloesedd o ansawdd uchel, creu cyllid ymchwil, a datblygu cydweithrediad o fewn ymchwil sy'n cefnogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gyflawni'r Strategaeth Perfformiad Uchel. Wrth wneud hynny, nod y Ganolfan yw darparu atebion sy'n cael eu gyrru gan ymchwil, sy'n hwyluso datblygiad a pherfformiad athletwyr ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Ymhellach, mae'r ymchwil amlddisgyblaethol a gynhelir gan y Ganolfan yn ceisio llywio arferion gorau o ran lles chwaraewyr, addysg hyfforddwyr, cyfranogiad, a ffactorau sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Yr Athro Brendan Cropley – Athro Hyfforddi Chwaraeon, Prifysgol De Cymru
[email protected]
Dr David Adams – Pennaeth Pêl-droed FAW
[email protected]
I gael gwybodaeth am y ganolfan neu am wybodaeth am brosiectau a chydweithio posibl, cysylltwch â'r athro Brendan Cropley.
I gael gwybodaeth am y Ganolfan neu wybodaeth am brosiectau a chydweithio posibl, cysylltwch â'r Athro Brendan Cropley neu Dr Alan McKay.