6ed Cynhadledd Consensws Rhyngwladol ar Gyfergyd mewn Chwaraeon

International Concussion-in-Sport Conference

Mae Dr Tom Owens wedi cael ei ddewis ar gyfer cyflwyniad llafar yn y 6ed Cynhadledd Consensws Rhyngwladol ar Gyfergyd mewn Chwaraeon, a gynhelir yn Amsterdam rhwng Hydref 27ain-28ain.


Y gynhadledd yw’r fwyaf yn y maes ac mae’n cael ei defnyddio i sefydlu ein dealltwriaeth bresennol o gyfergyd mewn chwaraeon, gan gynnwys gosod yr argymhellion ar gyfer ymarfer ar gyfer y pedair blynedd nesaf.


Teitl cyflwyniad Tom yw ‘Recurrent concussion in retired rugby union players; decreased nitric oxide bioactivity, cerebral hypoperfusion & cognitive impairment.’ Ceisiodd yr ymchwil darganfod biomarcwyr gwaed ac ymennydd sy’n gysylltiedig â hanes cyfergyd a’u goblygiadau ar weithrediad gwybyddol chwaraewyr rygbi sydd wedi ymddeol. O ystyried mai hon yw’r gynhadledd fwyaf o’i fath, mae’n fraint i mi allu cyflwyno ein hymchwil sydd wedi ffurfio un o’r llwybrau niferus sy’n cael eu dilyn ar hyn o bryd gan Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd. Rydw i wedi recordio fersiwn o’r cyflwyniad a bydd yn cael ei ddarparu yn Amsterdam sydd ar gael yma.

Dr Tom Owens doing research


Uwchsain doppler trawsgreuanol a ddefnyddir i asesu llif gwaed yr ymennydd.


"Rwy’n edrych ymlaen at rannu fy ymchwil ar lwyfan y Byd o flaen academyddion blaenllaw, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr ifanc. Rwyf wedi bod yn darllen ymchwil y cyflwynwyr a’r trefnwyr ers sawl blwyddyn, felly mae cael cyfarfod â nhw i drafod eu hymchwil yn bersonol yn bleser," meddai Tom.


"Bydd y crynodeb ymchwil sy’n seiliedig ar fy nghyflwyniad hefyd yn cael ei gyhoeddi mewn rhifyn arbennig o’r ‘British Journal of Sports Medicine’, felly rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwnnw. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at teithio i Amsterdam a mwynhau'r diwylliant, felly mae'n argoeli i fod yn brofiad gwych."


Ymchwil ar gyfer y dyfodol


"Ar hyn o bryd rydym yn paratoi erthygl ymchwil llawn yn seiliedig ar ein canfyddiadau ymhlith chwaraewyr rygbi'r sydd wedi ymddeol sydd â hanes cyfergyd, a gobeithiwn y bydd yn barod cyn diwedd 2022. Rydym hefyd yn paratoi i ymchwilio effaith hanes cyfergyd yn merched sy’n chwarae pêl-droed a rygbi’r undeb, a fydd yn parhau drwy gydol 2023," parhaodd Tom.


Dyma fideo sy’n crynhoi peth o’r gwaith sydd wedi cael ei cwblhau yn chawaraewyr pêl-droed gwrywaidd ym Mhrifysgol De Cymru.