Yr wythnos hon, ar gyfer Teulu PDC, buom yn siarad â
Dr Tom Owens,
Labordy ymchwil niwrofasgwlaidd, sy'n graddio gyda'i PhD.
Sut deimlad yw bod wedi cwblhau blynyddoedd lawer o waith?
Mae'n dal i deimlo'n rhyfedd a dweud y gwir. Ymunais â PDC yn 2013 yn astudio ar gyfer fy BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yna dychwelais i PDC i astudio ar gyfer fy PhD, yn ymchwilio i weithrediad yr ymennydd mewn chwaraewyr rygbi yn dilyn cyfergydion.
Fe wnes i gwblhau fy viva ym mis Tachwedd 2021 a dyfarnwyd y PhD i fi ym mis Chwefror eleni ond roedd honno'n adeg brysur iawn o’r flwyddyn academaidd, felly aeth heibio heb lawer o ffwdan. Adeg graddio bydd y dathlu.
Ymchwilydd yn gosod offer monitro'r ymennydd i ben dyn
Pam y maes ymchwil hwn?
Rwy'n feiciwr mynydd brwd. Roeddwn i a fy ffrindiau yn cael ambell gnoc i'r pen ac yn dioddef symptomau cyfergyd, heb ddeall yn iawn beth oedden nhw.
Mae effeithiau cyfergydion yn fater dadleuol mewn chwaraeon prif ffrwd, fel pêl-droed a rygbi. A dyma feddwl, os oes gan chwaraeon prif ffrwd broblem, tybed a yw’n broblem i ni hefyd? Beth yw'r anaf hwn a beth mae'n ei olygu ar gyfer dyfodol chwaraeon?
Beth oedd yr heriau?
Mae wedi bod yn heriol cael trefn ar y gwahanol agweddau i gyd – yr addysgu, cynllunio, ymchwil, ysgrifennu ac ati. Mae'n anodd. Fel gyda'r rhan fwyaf o fyfyrwyr PhD, gallwch fod dan bwysau mawr ar ambell ddiwrnod. Rwy'n ffodus bod fy nhîmau yn y Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd a'r timau academaidd chwaraeon a cheiropracteg wedi bod yn gefnogol iawn, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw.
A'r uchafbwyntiau?
Tua diwedd blwyddyn gyntaf y PhD, dechreuais weithio fel Darlithydd â Thâl Fesul Awr (HPL), yn addysgu ar fodiwlau chwaraeon. Yn 2020, dechreuais fel darlithydd llawn amser mewn Gwyddorau Biofeddygol ar nifer o wahanol fodiwlau chwaraeon a cheiropracteg.
Mae’r addysgu yn sicr yn un o'r uchafbwyntiau. Mae gwneud ymchwil arloesol ar yr un pryd wedi golygu fy mod, wrth i ni ddarganfod gwybodaeth newydd a chyffrous, wedi gallu ei rhannu gyda'r myfyrwyr – yn enwedig ar ôl y cyfnod clo.
Enillais Fyfyriwr Ymchwil y Flwyddyn yng Ngwobrau Effaith PDC 2019 am fy ymchwil gyda chwaraewyr rygbi proffesiynol. Ces i fy enwebu ar gyfer gwobr y Darlithydd Gorau yng Ngwobrau Dewis Myyrwyr 2022, ac roedd hynny’n anrhydedd. Pwy a ŵyr, efallai y gwnaf i ei hennill rywbryd yn y dyfodol.
Beth sydd nesaf?
Rwy'n hoffi'r bywyd academaidd. Mae gennyf gydbwysedd da yn PDC lle mae modd i ni addysgu a gwneud gwaith ymchwil. Rwyf am barhau gyda fy ymchwil a chawn weld i ble y bydd hynny’n arwain.
Mae ein gwaith ar gyfergydion wedi ymdrin â chwaraewyr rygbi ifanc a rhai sydd wedi ymddeol - ond dim ond dynion. Y dilyniant naturiol yr Haf hwn yw astudio sampl o fenywod sy’n chwarae rygbi, i ddeall gweithrediad yr ymennydd yn well. Yn yr un modd, mae Chris Marley a'r tîm wedi bod yn ystyried arwain y gwaith ar gyfergydion ymhlith dynion sy’n chwarae pêl-droed, ac rydyn ni’n bwriadu gwneud astudiaeth debyg gyda menywod.
Yn fy amser sbâr, rwy'n hoffi chwaraeon anghonfensiynol, chwaraeon modur yn bennaf. Unrhyw beth gyda chyflymder ac adrenalin. Ar ôl graddio, mae grŵp ohonon ni’n bwriadu mynd ar daith ffordd i Ardal y Llynnoedd a Gororau’r Alban.