Mae gormod o haearn yn y llif gwaed yn gwaethygu Salwch Mynydd Cronig, yn ôl astudiaeth gan PDC

La Paz, Bolivia

La Paz, Bolifia


Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi nodi y gallai gormod o haearn catalytig 'rhydd' yn y gwaed arwain at Salwch Mynydd Cronig (SMC) mewn pobl sy'n byw ar dir uchel, ac sydd ag amryw symptomau a risgiau, gan gynnwys namau gwybyddol.

 

Beth yw Salwch Mynydd Cronig?

Mae symptomau SMC yn cynnwys cur pen, pendro, tinitws, diffyg anadl, crychguriadau, a llawer mwy.

Teithiodd Damian Bailey, Athro Ffisioleg a Chymrawd Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol, i La Paz, Bolifia (3,600 o fetrau uwch lefel y môr) i ymchwilio i effeithiau byw gydol oes ar dir uchel a sut mae'n effeithio ar gyflenwad ocsigen i'r ymennydd. Dywedodd:

"Mae tua 90% o’r bobl sy'n byw ar dir uchel yn addasu i'r amodau. Mae cenedlaethau di-ri’ o bobl yn arddangos addasiadau genetig ac amgylcheddol sy'n eu galluogi i weithredu o dan yr amodau anodd hynny. Fodd bynnag, mae SMC yn enghraifft o'r hyn sy'n digwydd pan fydd pobl yn methu ag addasu, syndrom diffyg addasu yw e i bob pwrpas.

"Pan fo’r rhan fwyaf o bobl yn mynd i dir uchel, maen nhw'n cynhyrchu erythropoietin, hormon sy'n ysgogi mêr yr esgyrn i gynhyrchu celloedd gwaed coch. O ganlyniad, mae ganddynt fwy o haemoglobin (y protein sy'n cludo ocsigen yn y gwaed) felly mae mwy o ocsigen yn teithio i'r ymennydd, sy'n bwysig gan ein bod wedi esblygu gydag ymenyddiau sydd ag awch mawr am ocsigen.

"Fodd bynnag, os na allwch chi ddiffodd y genyn hwnnw - os yw ynghyn drwy’r amser a chithau’n cynhyrchu llu o gelloedd gwaed coch yn gyson, mae'ch gwaed yn mynd yn drwchus iawn, iawn, fel slwtsh trioglyd, ac yn arafu'r broses o gyflenwi mwy o ocsigen."

Yn draddodiadol, mae byw ar dir uchel wedi cael ei ystyried yn fantais oherwydd bod pobl sydd wedi byw ar dir uchel gydol eu hoes wedi gallu perfformio'n well mewn digwyddiadau dygnwch na thrigolion tiroedd isel pan fyddan nhw'n dod i lawr i lefel y môr. Mae pobl o  Ethiopia neu Kenya sy'n rhagori mewn rhedeg marathonau’n enghraifft o hyn. Fodd bynnag, i’r 5 i 10% o’r 140 miliwn yr amcangyfrifir eu bod yn byw gyda SMC ar diroedd uchel, mae bywyd yn annioddefol.

 

Beth yw effeithiau SMC?

Ar wahân i'r symptomau, mae gan CMS risgiau tymor hir cysylltiedig.

Dywedodd yr Athro Bailey: "Mae ein hymchwil yn y gorffennol wedi darganfod bod cleifion sydd â SMC yn dioddef o iselder a namau gwybyddol, a allai fod yn ganlyniad i lif gwaed is i'r ymennydd. Mae hyn oherwydd bod radicalau rhydd yn cronni ac yn amharu ar allu pibelli gwaed i ymlacio ac agor. Dyw'r cleifion ddim yn dda iawn gyda’r hyn rydyn ni’n ei alw’n gymnasteg feddyliol, felly mae eu cof yn wael ac maen nhw’n cael anhawster wrth resymoli syniadau. Yn drist iawn, maen nhw'n dueddol o farw'n ifanc. Gallant ddioddef gyda thrawiadau ar y galon a strôc oherwydd eu gwaed trwchus.

"Un opsiwn o ran triniaeth yw dod â'r cleifion i dir is, lle mae mwy o ocsigen. Fodd bynnag, yn y gwledydd rydyn dan sylw, dim ond y cyfoethog sy’n byw’n agosach at lefel y môr. Mae'r cleifion SMC yn bobl dlotach gan amlaf, ac yn byw ar dir uchel iawn, iawn ac wynebu diffyg ocsigen yn gyson.

"Opsiwn arall yw’r hyn rydyn ni'n ei alw’n ddyraniad gwythiennog neu’n venesection. Fe fydden nhw'n mynd i glinig a chael tua litr o waed wedi'i dynnu. Mae angen rhyw chwech i wyth wythnos i'r corff greu mwy o waed, felly ateb dros dro yw hyn a dyw e ddim yn ofnadwy o lwyddiannus. Rydyn ni’n chwilio drwy’r amser i weld beth yn union sy'n achosi SMC a sut  gellir ei drin."

Roedd astudiaeth yr AthroBailey yn cynnwys mynd â grŵp o drigolion tir isel, i gyd ag iechyd da, i dir uchel a mesur llif y gwaed i'r ymennydd.

"Yn y grŵp hwn, mae'r ymennydd yn gweld y cynnydd hwn mewn uchder fel her ac mae cynnydd yn llif y gwaed i wrthbwyso'r gostyngiad mewn ocsigen. Mae'n ymddangos bod yr ymennydd yn addasu faint o ocsigen mae’n ei dderbyn drwy ‘reoli’ ffurfiant radicalau rhydd (h.y. sicrhau nad oes gormod yn cael eu cynhyrchu). Felly, mae’n cyson wyliadwrus o ran rheoli faint o ocsigen sy’n ei gyrraedd," dywedodd yr Athro Bailey.

Roedd grŵp arall o gyfranogwyr yn rhan o’r astudiaeth, sef trigolion tir uchel, oedd wedi’u geni a'u magu ar dir uchel, rai ohonyn nhw â SMC a rhai heb.

 

Beth oedd y canlyniadau?

Darganfu'r astudiaeth fod gan is-grŵp y trigolion tir uchel haearn rhydd yn eu gwaed ac mai hyn oedd y prif sbardun i gataleiddio ffurfiant radicalau rhydd. Fel arfer, mae haearn wedi'i rwymo'n dynn i gelloedd gwaed coch a phroteinau, ac ychydig iawn sy'n cylchredeg 'heb ei rwymo' yn y llif gwaed. Dywedodd yr Athro Bailey:

"Mae'r haearn 'rhydd' hwn yn symud i'r cylchrediad a dyma'r 'sbarc' sy'n gallu cynnau tân y radicalau rhydd. Os oes gormod ohonyn nhw, gall radicalau rhydd achosi niwed strwythurol i groenynnau celloedd ac amharu ar allu'r pibelli gwaed i agor; maen nhw'n mynd yn stiff.

"Mae gobaith i gleifion SMC gan fod yna gyffur sy’n gallu cipio haearn rhydd yn y gwaed. Mae angen cydbwysedd, fodd bynnag, gan fod angen haearn ar eich corff hefyd."

Canfuwyd hefyd nad oedd y trigolion tir uchel yn bwyta digon o ffrwythau a llysiau, oedd yn  debygol o fod wedi gwaethygu'r broblem gan fod diffyg bwydydd gwrthocsidiol yn eu deiet.  Teithiodd Teresa Filipponi, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Maeth Dynol, i La Paz gyda'r Athro Bailey.

Dywedodd: "Yr astudiaeth hon oedd y gyntaf erioed i asesu deiet yn gynhwysfawr mewn cleifion SMC. Mae ein data'n dangos bod llysiau a fitamin C yn arbennig o annigonol, yn is na'r isafswm a gynghorir gan Lywodraethau Bolifia a’r DU.  Mae angen i ni ystyried ymyriadau sydd â'r nod o annog bwyta mwy o ffrwythau a llysiau i helpu i fynd i'r afael â’r  diffyg gwrthocsid deietegol gan y gallai hynny helpu i wella canlyniadau clinigol."

 

Pam mae ymchwilwyr yn ymddiddori yn SMC?

Prif faes gwaith Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd yr Athro Bailey yw’r addasiadau fasgwlaidd sy'n digwydd gyda gweithgarwch corfforol, heneiddio, bwyta'n iach, ac addasu at dir uchel. Dywedodd yr Athro Bailey:

"Rydyn ni’n edrych drwy’r amser ar fodelau unigryw  lle mae her i gyflenwad ocsigen i'r ymennydd.  Dim ond un o'r modelau sy'n cynrychioli ffurf gyflymach o heneiddio yw SMC yn sgil diffyg llif gwaed digonol i'r ymennydd.

"Mae ystod o ymyriadau meddygol sydd â’r bwriad o gynyddu’r cyflenwad ocsigen i'r ymennydd. Rydyn ni’n gwybod bod yr ymennydd wedi esblygu i fod yn sensitif i ocsigen - ocsigen a glwcos yw tanwydd yr ymennydd.

"Mae'r ymennydd yn arbennig o fregus os oes newid yn y llif gwaed.  Felly, rydyn ni’n defnyddio tir uchel fel model oherwydd po uchaf yr ewch chi, y mwyaf y mae’r pwysedd barometrig yn gostwng, ac felly bydd yr ocsigen yn lleihau. Mae hyn yn achosi i'r ymennydd ‘ddeffro’ mewn ffordd, ac ymdrechu i ddiogelu’r tanwydd sy’n ei gyrraedd."

 

Cyhoeddwyd yr ymchwil hon yn ddiweddar yn Free Radicals in Biology & Medicine, un o gyfnodolion blaenllaw’r maes. (https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/35398201/).

 

#featured #promoted