21-06-2022
Mae Damian Bailey, Athro Ffisioleg a Biocemeg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi'i benodi'n Olygydd newydd ‘Experimental Physiology’.
Cwblhaodd Damian ei PhD mewn ffisioleg ddynol glinigol tra'n gweithio fel ffisiolegydd ymchwil cyntaf Canolfan Feddygol Olympaidd Prydain mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen (yr Athro Eric Newsholme). Gwnaeth ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgolion California San Diego (Yr Athro Peter Wagner, Yr Athro John West a’r Athro Russ Richardson), Canolfan Gwyddorau Iechyd Colorado Denver (Yr Athro Joe McCord a’r Athro 'Jack' Reeves) a Phrifysgol Heidelberg (Yr Athro Peter Bärtsch a’r Athro Heimo Mairbäurl), cyn dychwelyd i'w wreiddiau yng Nghymru yn PDC lle mae ar hyn o bryd yn Gymrawd Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol, yn Athro Ffisioleg a Biocemeg ac yn Gyfarwyddwr y Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd.
Mae ei raglen ymchwil yn defnyddio dull trosiannol integredig i ymchwilio sut mae radicalau rhydd a rhywogaethau ocsigen/nitrogen adweithiol cysylltiedig yn rheoleiddio'r gwaith o ddarparu’n is-haenol i'r ymennydd dynol drwy holl sbectrwm clinigol iechyd a chlefydau dynol, ac yn ymgorffori 'modelau ymarfer corff eithafol, uchder, deifio heb gyfarpar anadlu a ffisioleg ofod’. Mae wedi cyhoeddi dros 300 o lawysgrifau ac mae ei ymchwil wedi denu diddordeb eang yn y cyfryngau a gwobrau rhyngwladol, gan gynnwys cymrodoriaethau gan y Gymdeithas Frenhinol (Wolfson), y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Coleg Meddygaeth Chwaraeon America, a'r Gymdeithas Ffisiolegol. Ar hyn o bryd mae'n cadeirio’r Gweithgor Gwyddorau Bywyd, y Pwyllgor Ymgynghorol ar Hedfan Pobl yn y Gofod a Gwyddor Archwilio (Asiantaeth Gofod Ewrop) ac mae'n aelod o'r Uwch Bwyllgor Archwilio Ymgynghorol (Asiantaeth Ofod y DU). Ar hyn o bryd mae'n cael ei ariannu i archwilio sut mae'r ymennydd dynol yn ymateb i ddiffyg pwysau wrth hedfan yn ddwfn yn y gofod. Mae'n awyr-ddeifiwr brwd, ac wedi cynrychioli ei wlad fel pêl-droediwr ac athletwr. Mae hefyd yn fynyddwr brwd ac wedi arwain nifer o deithiau meddygol i'r Himalayas, De America, a Rwsia.
Wedi bod yn Uwch Olygydd ers Ionawr 2018, denwyd Damian yn wreiddiol i ‘Experimental Physiology’ drwy ei ffocws ar ymchwil trosiannol o ansawdd uchel gydag effaith, a’i gefnogaeth frwd i ddulliau rhyngddisgyblaethol sy'n gwella ein gallu i ganfod, atal a thrin clefydau dynol. Roedd hefyd yn apelio am ei fod hefyd yn un o gylchgronau blaenllaw y Gymdeithas Ffisiolegol gydag ymrwymiad strategol i adeiladu ac ysbrydoli ein cymuned o ffisiolegwyr.
Wrth sôn am yr hyn y mae'n edrych ymlaen ato fwyaf fel Prif Olygydd, dywedodd:
"Rwy'n edrych ymlaen at hyrwyddo 'pŵer ffisioleg', a sicrhau mai ' Experimental Physiology' yw’r cyfnodolyn o ddewis, Y lle i gyhoeddi ymchwil trosiannol sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau mawr sy'n wirioneddol bwysig, a chael yr effaith fwyaf."
21-08-2023
14-08-2023
14-02-2023
10-02-2023
26-10-2022
25-10-2022
08-09-2022
28-07-2022
20-07-2022