Mae'r Grŵp Ymchwil Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn ceisio cynhyrchu ymchwil gymhwysol ac effeithiol sydd o fudd i unigolion, grwpiau a sefydliadau ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar ddwy brif thema, sef Iechyd Fasgwlaidd a Pherfformiad Chwaraeon.
Mae gan y Grŵp Iechyd Vascwlaidd, dan arweiniad yr Athro Damian Bailey, thema fiofeddygol, ac mae'n canolbwyntio ar fanteision fasgwlaidd ymarfer corff drwy gydol oes.
Mae gan y Grŵp Perfformiad Chwaraeon, dan arweiniad yr Athro Brendan Cropley a'r Athro David Shearer, thema gymhwysol, ac mae'n mabwysiadu dull ymarferol o wella perfformiad athletwyr elît a hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith perfformwyr ifanc.
Mae'r ddwy brif thema hyn yn cael eu cefnogi'n strategol gan is-grwpiau sydd â gweithgareddau ymchwil mwy penodol, yn benodol:
Yn ogystal â'r is-grwpiau hyn, hyrwyddir ymgysylltiad uniongyrchol â defnyddiwr gan Ganolfan thematig ar gyfer ymchwil pêl-droed yng Nghymru. Mae gan y Ganolfan aelodaeth eang o bob rhan o'r grŵp ac mae'n darparu cyswllt uniongyrchol â phartner allanol allweddol, Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, i sicrhau y gellir dehonlgi canlyniadau ymchwil penodol a'u bod yn cael effaith.
Rydym yn cydweithio'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phartneriaid o ddiwydiant a'r byd academaidd i ddarparu gwybodaeth ac effaith sy'n arwain y byd. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth:
21-08-2023
14-08-2023
14-02-2023
10-02-2023